Ardal Forol Warchodedig

Ardal Forol Warchodedig
Mathardal gadwriaethol, gwarchodfa natur Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ardal warchodedig sydd yn cynnwys ardal fôr yw Ardal Forol Warchodedig. Fel arfer mae ardaloedd morol gwarchodiedig yn cyfyngu ar weithgarwch dynol at ddiben cadwraeth, er mwyn diogelu adnoddau naturiol neu ddiwylliannol.

Gall yr amddiffyniad hwn gynnwys cyfyngiadau ar ddatblygiad masnachol, arferion pysgota, tymhorau pysgota a therfynau dalfa, angorfeydd a gwaharddiadau ar symud neu darfu ar fywyd morol.

Gall yr ardaloedd hyn gael eu gwarchod gan awdurdodau ar lefelau amrywiol – lleol, gwladwriaethol, taleithiol, rhanbarthol, brodorol, cenedlaethol neu ryngwladol – mae natur y rheolaeth hon yn amrywio'n sylweddol rhwng rhanbarthau.

Ardaloedd morol gwarchodiedig yn 2020[1]
  1. "Marine Protection Atlas". mpatlas.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Mai 2022.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search